storfa aur, geirfa'r iaith!

Eurfa ::  Rhigymydd ::  Trosiadur ::  Cefndir ::  Lawrlwytho ::  Kyfieithu ::  Rhedadur ::  Cymrux ::     [English]

To bach: â   ê   î   ô   û   ŵ   ŷ      Ê   Π  Ô   Û   Ŵ   Ŷ  


Eurfa ar gael yn y fformat dictd! (14/03/2007)

Rŵan mae mwy nag un ffordd o fwynhau Eurfa - mae ffeiliau i'w defnyddio efo'r protocol gweinydd geiriadur dictd ar gael. Mae modd felly i ddefnyddio Eurfa efo dibynyddion gweithfwrdd megis Kdict (rhan o'r modiwl KDE Network), ac mae'n golygu hefyd y cefnogir y geiriadur naidlen ardderchog KTranslator. Gweler yr ardal newydd o'r wefan ar gyfer cefndir, ffeiliau a sgrinluniau.

Gwirydd gramadeg ar gael rŵan! (15/02/2007)

Mae fersiwn cyntaf Klebran, y gwirydd gramadeg Cymraeg cyntaf erioed i fod dan drwydded rydd (GPL), wedi'i ddatblygu. Mae'n defnyddio Eurfa i wirio sillafu geiriau mewn darn testun, ac i gyflenwi ystyr bob un.

Eurfa Fersiwn 2! (15/02/2007)

Defnyddia'r wefan yma Fersiwn 2 o Eurfa, sydd ar gael rŵan ar y dudalen Lawrlwytho. Mae Fersiwn 2 yn cynyddu'r nifer o eiriau sylfaenol dros 23%, i 13,000 bron.

Beth yw Eurfa (http://www.eurfa.org.uk)?

Geiriadur rhydd (dan y GPL) i'r Gymraeg yw Eurfa, yr un cyntaf erioed sy'n fwy na 1,000 cofnod. Am fwy o wybodaeth, gweler Cefndir. Ar hyn o bryd, mae Eurfa yn cynnwys tua 10,000 gair sylfaenol (yn cynnwys ffurfiau lluosog), ac 400,000 ffurf treigledig a berfol ychwanegol a seilir ar y rhain (y tro cyntaf erioed i ffurfiau fel hyn gael eu cynnwys mewn geiriadur Cymraeg, neu mewn geiriadur unrhyw iaith Geltaidd). Bydd hyn o gymorth mawr i ddysgwyr, sydd ddim yn gwybod eto bod ebyrth yn ffurf lluosog o aberth, neu fod radd yn dreiglad meddal o gradd, neu fod gwelsom yn perthyn i gweld.

Achos ei thrwydded rydd, gellir lawrlwytho cynnwys Eurfa i'ch PC, i chi gael ei ddefnyddio yn lleol, ei rannu efo'ch ffrindiau neu gydweithwyr, ei newid, neu hyd yn oed adeiladu cymhwysiadau newydd (e.e. crëyddion croeseiriau) efo fo.Am fwy o wybodaeth, gweler Lawrlwytho.

Cynigir dau gymhwysiad arddangosol hefyd: Rhigymydd a Trosiadur, y ddau ohonynt yn defnyddio Eurfa.

Mwynhewch!
Kevin Donnelly